2014 Rhif 371 (Cy. 39)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3280 (Cy. 284)) (“y Prif Reoliadau”) sydd yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t. 16) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1122/2009 (OJ Rhif L 316, 21.2.2009, t. 65) mewn perthynas â thrawsgydymffurfio o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Mae'r gofynion ar gyfer trawsgydymffurfio o ran diogelu dŵr daear wedi eu diwygio ar gyfer blwyddyn galendr 2014. Yn benodol, diwygiwyd Atodiad III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 i'w gwneud yn ofynnol bod diogelu dŵr daear yn cael ei gynnwys yn y safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y mae'n ofynnol i Aelod-wladwriaethau eu datblygu. Mae'r diwygiadau perthnasol wedi eu cynnwys yn Rheoliad (EU) Rhif 1310/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy'n gosod darpariaethau trosiannol penodol ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), sy'n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran adnoddau a'u dyrannu yng nghyswllt y flwyddyn 2014 ac yn diwygio Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 a Rheoliadau (EU) Rhif 1307/2013, (EU) Rhif 1306/2013 ac (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran eu cymhwyso yn y flwyddyn 2014 (“Rheoliad (EU) Rhif 1310/2013”).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhoi effaith i reoliadau 21 a 22 o Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2506 (Cy. 245)).

Mae rheoliad 3 yn rhoi paragraff 27 newydd yn lle’r un  presennol yn yr Atodlen i’r Prif Reoliadau er dwyn i ystyriaeth y gofynion newydd sy'n rheoli taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, pistylloedd neu ffynhonnau fel y'u gweithredir gan Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013.

Mae rheoliad 4 yn mewnosod paragraff 28 newydd yn yr Atodlen i’r Prif Reoliadau, sy'n creu safon ofynnol newydd ar gyfer Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da mewn perthynas â diogelu dŵr daear, gan weithredu Erthygl 6(20) o Reoliad (EU) Rhif 1310/2013.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r manteision sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.


2014 Rhif 371 (Cy. 39)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                             18 Chwefror 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad                    Cenedlaethol Cymru           20 Chwefror 2014

Yn dod i rym                      21 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd([2]), ac maent yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Chwefror 2014.

Diwygio

2. Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004([3]), wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3. Yn lle paragraff 27 o'r Atodlen (lleiniau clustogi ar hyd cyrsiau dŵr) rhodder—

Buffer strips for water protection

27.—(1) No person may spread manufactured nitrogen fertiliser within 2 metres of surface water.

(2) No person may spread organic manure within 10 metres of surface water unless using precision spreading equipment in which case no person may spread organic manure within 6 metres of surface water.

(3) But livestock manure (other than slurry and poultry manure) may be spread there if—

(a)   it is spread on land managed for breeding wader birds or as a species-rich semi-natural grassland and the land is—

                       (i)  notified as a Site of Special Scientific Interest under the Wildlife and Countryside Act 1981; or

                      (ii)  subject to an agri-environment commitment entered into under Council Regulation (EC) No 1698/2005 (on support for rural development by the Eurpean Agricultural Fund for Rural Development (EAFRD));

(b)  it is spread between 1 June and 31 October inclusive;

(c)   it is not spread directly on to surface water; and

(d)  the total annual amount does not exceed 12.5 tonnes per hectare.

(4) No person may spread organic manure within 50 metres of a borehole, spring or well.

(5) For the purposes of this paragraph—

“livestock” means cattle, chickens, deer, ducks, goats, horses, pigs, sheep, ostriches and turkeys;

“manufactured nitrogen fertiliser” means any nitrogen fertiliser (other than organic manure) manufactured by an industrial process;

“nitrogen fertiliser” means any substance containing one or more nitrogen compounds used on land to enhance growth of vegetation and includes organic manure;

“organic manure” means any nitrogen fertiliser or phosphate fertiliser derived from animal, plant or human sources and includes livestock manure;

“precision spreading equipment” means a trailing shoe, dribble bar or injector system;

“phosphate fertiliser” means any substance containing one or more phosphorous compounds used on land to enhance growth of vegetation and includes organic manure;

“poultry” means chickens, ducks, ostriches and turkeys;

“slurry” means excreta produced by livestock (other than poultry) while in a yard or building (including any bedding, rainwater or washings mixed in with it) that has a consistency that allows it to be pumped or discharged by gravity (in the case of excreta separated into its liquid and solid fractions, the slurry is the liquid fraction);

“spread” includes the application to the surface of the land, injection into the land or mixing with the surface layers of the land but does not include the direct deposit of excreta on to land by animals.

4. Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 27 (lleiniau clustogi er mwyn gwarchod dŵr) mewnosoder—

Protection of groundwater

28.—(1) No person may cause, or knowingly permit, a groundwater activity except under and to the extent authorised by an environmental permit in accordance with regulation 12(1)(b) of the Environmental Permitting Regulations (England and Wales) 2010([4]).

(2) A farmer must comply with the requirements relating to groundwater activities in accordance with regulation 35(2)(p) of, and Schedule 22 to, the Environmental Permitting Regulations (England and Wales) 2010([5]).

 (3) For the purposes of this paragraph—

“groundwater activity” has the same meaning as in the Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010;

“environmental permit” has the same meaning as in the Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010.

 

 

 

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

18 Chwefror 2014

 



([1])           1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

([2])           O.S. 2010/2690.

([3])           O.S. 2004/3280 (Cy. 284), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3367 (Cy. 264), O.S. 2006/2831 (Cy. 252), O.S. 2007/970 (Cy. 87), O.S. 2010/38 (Cy. 11) ac O.S. 2011/2941 (Cy. 317).

 ([4])          O.S. 2010/675, a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/630; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol.

([5])           O.S. 2010/675, a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/630; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol.